Matthew 21:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wrth weled fficuspren ar y ffordd, yd aeth ataw, ac ny chafas ddim arnaw, n amin dail yn vnic, ac y dyvot wrthaw, Na bo i ffrwyth dyvu arnat’ byth mwy ach. Ac yn ebrwydd y gwywoð y fficuspren.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan weled ffigysbren ar y ffordd, daeth atto, ac ni chafodd ddim arno oddieithr dail yn unig, a dywedodd wrtho, Ddim mwy, oddi arnat ti, na fydded ffrwyth am byth; a chrino yn uniawn a wnaeth y ffigysbren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gweled rhyw ffigysbren ar y ffordd, daeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac medd ef wrtho, “Mwyach na ddeled ffrwyth ohonof ti byth bythoedd.” A chrinodd y ffigysbren ar unwaith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dyma'r goeden yn gwywo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan welodd ffigysbren ar fin y ffordd aeth ato, ond ni chafodd ddim arno ond dail yn unig. Dywedodd wrtho, "Na fydded ffrwyth arnat ti byth mwy." Ac ar unwaith crinodd y ffigysbren.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd efe un ffigysbren ar ymyl y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno ond dail yn unig; ac efe a ddywed wrtho, Na fydded ffrwyth o honot byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.