Matthew 21:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ddywedyt wrthynt, Ewch ir pentref y sy gyferbyn a chwi, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyd a hi: gellyngwch wynt a’ dygwch i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref ar eich cyfer, ac yn uniawn y cewch asen yn rhwym, ac ebol ynghyda hi: wedi eu gollwng dewch â hwynt Attaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan ddywedyd wrthynt, “Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, ac yn y fan chwi gewch asen yn rhwym ac ebol gyda hi; gollyngwch a dygwch i mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wedi ei rhwymo a'i hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gan ddweud wrthynt, "Ewch i'r pentref sydd gyferbyn chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch hwy ataf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn ebrwydd chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt a dygwch ataf fi.