Matthew 21:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pha beth a archoch yn‐gweddi, a’s credwch, chvvi ei d erbyniwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phob peth cymmaint ag a ofynoch mewn gweddi, a than gredu, a dderbyniwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phopeth a ofynnoch mewn gweddi gan gredu, chwi a’i cewch.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim ond i chi gredu, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A beth bynnag oll y gofynnwch amdano mewn gweddi, os ydych yn credu, fe'i cewch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A pha beth bynag a ofynoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.