Matthew 21:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y ðyvot ef ir Templ, yr Archoffeiriait, a’ Henafieit y popul a ddaethan attaw, val yr oeð ef yn adrodd‐dysc, ac a ddywedesont, Wrth pa awturtot y gwnai di y pethae‐hyn? a’ phwy a roes y ti yr awdurtot hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod o Hono i’r deml, daeth Atto, pan yn athrawiaethu, yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, gan ddywedyd, trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? A phwy a roddes i Ti yr awdurdod hon?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ddyfod i’r deml, pan oedd yn dysgu daeth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl ato, a dywedasant, “Drwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn? a phwy a roes i ti’r awdurdod hwn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei ddyfod ef i'r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n mynd i gwrt y deml a dechrau dysgu'r bobl yno. A dyma'r prif offeiriaid a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iesu i'r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, "Trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddyfod i'r Deml, yr Archoffeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant ato, ac efe yn dysgu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?