Matthew 21:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd yr Iesu, ac y dyvot wrthwynt, A’ myvy a ovynaf i chwi, vn‐peth, yr hwn a’s manegwch y‐my, a’ minef a venagaf y chwi wrth pa awturtot y gwnaf i y pethae hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gofynaf Finnau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os ei mynegwch i Mi, Minnau hefyd a ddywedaf i chwithau “trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr Iesu iddynt, “Mi ofynnaf innau i chwi un gair, ac os dywedwch imi hynny, dywedaf innau i chwi drwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi, ateba i'ch cwestiwn chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu hwy, "Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Gofynaf finau hefyd i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minau hefyd a fynegaf i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn: