Matthew 21:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Betydd Ioan o b’le yð oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? Yno y rhysymesont yn ei plith y unain, gan ddywedyt, A’s dywedwn, mai o’r nef: ef a ddyweit wrthym, Paam gan hyny na’ s credech yddaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? Ai o’r nef, neu o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, “O’r nef,” dywaid Efe wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef ai o ddynion?” Ymresyment hwythau ynddynt eu hunain, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef,’ fe ddywed wrthym, ‘Paham ynteu nas credasoch?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o'r nef ai o'r byd daearol?" Dechreusant ddadlau 'i gilydd a dweud, "Os dywedwn, 'O'r nef', fe ddywed wrthym, 'Pam, ynteu, na chredasoch ef?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? O'r Nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed wrthym, Paham, gan hyny, na chredasoch ef?