Matthew 21:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepesont i’r Iesu, gan ddywedyt, Ny wyddam ni. Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ac ny’s dyweda vi nef y chwi wrth pa awturtot y gwnaf vi hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb i’r Iesu, dywedasant, Nis gwyddom. Wrthynt hwy y dywedodd Efe hefyd, Nid wyf Finnau chwaith yn dywedyd wrthych “Trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebasant yr Iesu, “Nis gwyddom.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant Iesu, "Ni wyddom ni ddim." Ac meddai yntau wrthynt, "Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a atebasant i'r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.