Matthew 21:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
And beth dybygwch vii? Ydd oedd i wr ddau vap, ac ef a ddaeth at yr hynaf, ac a ddyvot, Ha vap, does a’ gweithia heddyw yn vy‐gwinllan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pa beth yw eich barn chwi? Yr oedd gŵr a chanddo ddau fab. Ac wedi dyfod at y cyntaf, dywedodd, Fy mab, dos,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond beth a debygwch chwi? Yr oedd gan ddyn ddau o blant; fe aeth at y cyntaf, a dywedodd, ‘Fy mab, dos heddiw, gweithia yn y winllan.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth ydych chi'n feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, 'Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan wr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, O Fab, dos, gweithia heddyw yn y winllan.