Matthew 21:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atebodd ac a ddyvot, Nyd af vi: an’d gwedy edifarhay arno, ydd aeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gweithia heddyw yn y winllan: ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Nid ewyllysiaf, ond gwedi’n wedi edifarhau o hono, yr aeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau, ‘Gwnaf i, syr,’ ac eto nid aeth. Ac aeth at yr ail, a dywedodd yr un modd. Atebodd yntau, ‘Nac af’; wedi hynny edifarodd, ac aeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, 'Na wnaf'; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Nid âf; ond wedi hyny yr oedd yn ddrwg ganddo, ac a aeth.