Matthew 21:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a dywait nep ðim wrthych, dywedwch, vot yn rraid ir Arglwyð wrthynt: yn y man ef y gellwng hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os neb a ddywaid ddim wrthych, dywedwch, yr Arglwydd sydd â rhaid wrthynt; ac yn uniawn y denfyn efe hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd eu heisiau’; ac yn y fan fe’u henfyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac os bydd rhywun yn ceisio'ch rhwystro, dwedwch, ‘Mae'r meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, 'Y mae ar y Meistr eu hangen'; a bydd yn eu rhoi ar unwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd eu heisieu: ac yn ebrwydd efe a'u denfyn hwynt.