Matthew 21:30 — Compare Translations
6 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ef at yr ail, ac a ddyvot yr vn ffynyt. Ac ef a atepawdd, ac a ddyvot, Mi vvnaf, Arglwydd: ac ny d aeth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod at yr ail, dywedodd yr un modd; ac efe, gan atteb, a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, 'Fe af fi, syr'; ond nid aeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth at yr ail, ac a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Mi a âf, Arglwydd; ac nid aeth efe.