Matthew 21:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa vn o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedyt o hanynt wrthaw, Y cyntaf. Yr Iesu a ddyvot wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych’, yr aa ’r Publicanot a’r putenieit o’ch blaen chwi i deyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant, Y cyntaf. Dywedodd yr Iesu wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a ant o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad?” Meddant hwy, “Yr olaf.” Medd yr Iesu wrthynt, “Yn wir, meddaf i chwi, fe â’r trethwyr a’r puteiniaid o’ch blaen chwi i mewn i deyrnas Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pa un o'r ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw. Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn dod i berthyn i deyrnasiad Duw o'ch blaen chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prun o'r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?" "Y cyntaf," meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a'r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa un o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi yr ä y Trethgasglwyr a'r puteiniaid i Deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.