Matthew 21:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys daeth Ioan atoch yn ffordd vniondep, ac ny chredesoch ef: an d y Publicanot a’r puteinieit ei credesont ef, a’ chwychwi, er y chvvy weled, ny’s edifarhaech gwedy, yd yn y chredech ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys attoch y daeth Ioan gyda chrefydd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y treth-gymmerwyr a’r putteiniaid a’i credasant ef; a chwychwi, wedi gweled, nid edifarhasoch ar ol hyny fel y credech ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys daeth Ioan atoch gyda ffordd uniondeb, ac nis credasoch; ond credodd y trethwyr a’r puteiniaid ef; gwelsoch chwithau, ac nid edifarhasoch hyd yn oed wedyn a’i gredu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a'r puteiniaid a'i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chi'n gwrthod ei gredu. Ond dyma'r bobl sy'n casglu trethi i Rufain a'r puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynny'n digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl a'i gredu e!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a'r puteiniaid ef. A chwithau, ar l ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i'w gredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y Treth‐gasglwyr a'r puteiniaid a'i credasant ef; a chwithau, pan welsoch hyn, ni fu hyd y nod ddrwg genych ar ol hyny, fel y credech ef.