Matthew 21:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Clywch barabol ar all, Ydd oedd ryw berchen tuy yr hwn a blannodd ’winllan, ac y caeawdd hi o yamgylch, ac a wnaeth ynthei winwascpren, ac a adeiladawdd dwr, ac ei llogawdd hi i dirddiwilliawdwyr ac aeth i wlad bell.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Clywch ddammeg arall. Yr oedd dyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan; a chae a osododd efe yn ei chylch; a chloddiodd ynddi win-wryf: ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr; ac aeth i wlad ddieithr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o benteulu a blannodd winllan, a chaeodd o’i hamgylch, a chloddiodd ynddi gafn, ac adeiladodd dŵr; a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwrandewch ar ddameg arall. Yr oedd rhyw berchen tu375? a blannodd winllan; cododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf ynddi, ac adeiladu tu373?r. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwrandewch ddammeg arall: Yr oedd gwr, perchenog tŷ, yr hwn a blanodd winllan, ac a osododd glawdd o'i hamgylch hi, ac a gloddiodd ynddi win‐wasg, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth i wlad arall.