Matthew 21:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan nesawdd amser y ffrwythae, e dd anfonawdd ei weision at y tir‐ðiwilliawdrō y dd erbyn y ffrwythae hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan nesaodd amser ffrwythau, danfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan nesaodd amser ffrwythau, anfonodd ei weision at y llafurwyr i gael ei ffrwythau;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr o'r ffrwyth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth amser y cynhaeaf yn agos, anfonodd ei weision at y tenantiaid i dderbyn ei ffrwythau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan neshaodd tymhor y ffwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr i dderbyn ei ffrwythau.