Matthew 21:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r tir‐ðiwilliawdwyr a ddaliesont y weision ef, ac a vayddesont vn, ac a laddasont arall, ac a lapyddiesont vn arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r llafurwyr, wedi dal ei weision, un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dal ei weision a wnaeth y llafurwyr, a churo un, a lladd un arall, a llabyddio un arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall gyda cherrig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daliodd y tenantiaid ei weision; curasant un, a lladd un arall a llabyddio un arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r llafurwyr a gymmerasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.