Matthew 21:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefyn yd anfonawdd weision ereill, mwy na’r ei cyntaf: ac wy a wnaethant yddwynt yr vn ffynyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn y danfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf; a gwnaethant iddynt yn yr un modd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drachefn anfonodd weision eraill, mwy eu nifer na’r rhai cyntaf, a gwnaethant iddynt yr un modd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dyma'r tenantiaid yn gwneud yr un peth i'r rheiny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd drachefn weision eraill, mwy ohonynt na'r rhai cyntaf, a gwnaeth y tenantiaid yr un modd hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trachefn, efe a anfonodd weision ereill, fwy nâ'r rhai cyntaf, a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.