Matthew 21:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd y tir‐ðiwilliawdwyr y map, y dywedesont yn y plith y vnain, Hwn yw ’r etivedd: dewch, llaðwn ef, a’ chymerwn y etifeddiaeth ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond y llafurwyr, wedi gweled y mab, a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw’r etifedd; deuwch; lladdwn ef; a chymmerwn ei etifeddiaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan welodd y llafurwyr y mab, dywedasant yn eu plith eu hunain, ‘Hwn yw’r etifedd; dowch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw'r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan welodd y tenantiaid y mab dywedasant wrth ei gilydd, 'Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a meddiannwn ei etifeddiaeth.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr pan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, a chymmerwn ei etifeddiaeth ef.