Matthew 21:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymeresont ef, ac ei tavlesont allan o’r winllan, ac ei lladdasont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei ddal ef, bwriasant ef allan o’r winllan, a lladdasant ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’i ddal a wnaethant, a’i fwrw allan o’r winllan, a’i ladd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gafael ynddo, a'i daflu allan o'r winllan a'i ladd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chymerasant ef, a'i fwrw allan o'r winllan, a'i ladd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt ei gymmeryd, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.