Matthew 21:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ddyvot wrthwynt, Any ðarlleneso‐chwi erioed yn yr Scrythurae, Y maen yr hwn a wrthddodawdd yr adailiadwyr, hwnw a wnaethpwyt yn ben cong y l? Hyn oedd weithred yr Arglwydd, a’ rhyvedd yw yn ein llygait ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu wrthynt, oni fu i chwi erioed ddarllen yn yr Ysgrythyrau, “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a aeth yn ben i’r gongl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, Ac y mae yn rhyfeddol yn ein golwg.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd yr Iesu wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl: Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae’n rhyfedd yn ein golwg ni?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd: ‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen; yr Arglwydd wnaeth hyn, ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "Onid ydych erioed wedi darllen yn yr Ysgrythurau: 'Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn faen y gongl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ddywed wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Maen a wrthododd yr adeiladwyr, Hwn a wnaethpwyd yn ben congl; Oddiwrth yr Arglwydd y bu hyn, A rhyfedd yw yn ein golwg ni.