Matthew 21:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y dywedaf wrthych, y cymerir teyrnas Duw y arnoch, ac y rhoddir i genedl a ddwc y ffrwyth hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyny dywedaf wrthych, Oddi arnoch y dygir teyrnas Dduw, a rhoddir hi i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, meddaf i chwi, y dygir oddi arnoch deyrnas Dduw, ac y rhoddir i genedl yn dwyn ei ffrwythau hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Hyn dw i'n ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi a'u rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny 'rwy'n dweud wrthych y cymerir teyrnas Dduw oddi wrthych chwi, ac fe'i rhoddir i genedl sy'n dwyn ei ffrwythau hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, meddaf i chwi, dygir Teyrnas Dduw oddiarnoch chwi, a rhoddir hi i genedl a ddygo ei ffrwythau hi.