Matthew 21:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a gwympo ar y maen hwn, ef a ddryllir: ac ar pwy pynac y cwymp, y mal ef yn vriwion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn a syrthio ar y “maen” hwn, a ddryllir; ac ar yr hwn y syrthio, mâl efe ef yn chwilfriw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r neb a syrth ar y maen hwn a ddryllir, ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sy'n baglu ar y garreg yma yn dryllio'n ddarnau, a bydd pwy bynnag mae'r garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a syrthio ar y maen hwn a chwilfriwir yn ddarnau; eithr ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwal fel llwch.