Matthew 21:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedwch i verch Sion, Nycha, dy Vrenhin yn dyvot atat’ yn war, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen, weddol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Dywedwch wrth Ferch Tsion, Wele, dy Frenin sy’n dyfod attat, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asyn ac ar ebol llwdn ysgrubl.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedwch i ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod, yn addfwyn ac yn eistedd ar asen, ac ar ebol o lwdn asyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â'r iau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dywed wrth bobl Seion, ‘Edrych! Mae dy frenin yn dod! Mae'n addfwyn ac yn marchogaeth ar asen; ie, ar ebol asyn.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dywedwch wrth ferch Seion, 'Wele dy frenin yn dod atat, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywedwch i Ferch Seion, Wele dy Frenin yn dyfod i ti, Yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, Ac ar ebol, llwdn anifail dan yr iau.