Matthew 21:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddugesont yr asen a’r ebol, ac a ddodesont ei dillat arnynt, ac ei gesodesont ef arnwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
daethant â’r asen a’r ebol, a dodasant arnynt eu cochlau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dygasant yr asen a’r ebol, a dodi arnynt eu dillad, ac eisteddodd yntau arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaethon nhw â'r asen a'i hebol yn ôl, dyma nhw'n taflu eu cotiau arnyn nhw, a dyma Iesu'n eistedd ar gefn yr ebol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
daethant 'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy a ddygasant yr asen a'r ebol, ac a osodant arnynt y dillad, ac efe a eisteddodd arnynt.