Matthew 22:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r gweision hyny aethant allan ir prifffyrdd, ac a gesclesont ynghyt gynniuer oll ac gawsont, ddrwc a’ da: ac a lanwyt y briodas o ’ohaddwyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan o’r gweision hyny i’r ffyrdd, casglasant ynghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd y briodaswledd o rai yn lled-orwedd wrth y ford.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd, a chynullasant bawb a gawsant, drwg a da; a llanwyd y neuadd briodas o westeion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gweision hynny a aethant allan i'r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma'r gweision yn mynd allan i'r strydoedd a chasglu pawb allen nhw ddod o hyd iddyn nhw — y drwg a'r da. A llanwyd y neuadd briodas â gwesteion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gweision hyny a aethant allan i'r prif‐ffyrdd, ac a gasglasant yn nghyd gynnifer oll ag a gawsant, drwg a da; a llanwyd yr ystafell briodas o wahoddedigion.