Matthew 22:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ’r Brenhin e ddeuth y mewn, y weled y gohawddwyr, ac a ganvu yno ddyn nid oedd gwisc priodas amdauaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i mewn o’r brenhin i weled y rhai yn eu lled-orwedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a chanfu yno ddyn heb wisg briodas amdano,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond pan ddaeth y brenin i mewn i edrych ar y gwesteion, sylwodd fod yno un oedd ddim wedi ei wisgo mewn dillad addas ar gyfer priodas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwahoddedigion, efe a welodd yno ddyn nad oedd wedi gwisgo gwisg priodas.