Matthew 22:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthaw, Y cyveil’ pa ddelw yd aethost y mewn yma, eb vot am danat gwisc priodas? Ac ynte aeth yn vut.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gwelodd yno ddyn heb ei wisgo â gwisg priodas; a dywedodd wrtho, Cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma heb fod ag am danat wisg priodas? ac yntau a aeth yn fud.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac medd ef wrtho, ‘Y cyfaill, pa fodd y daethost ti i mewn yma heb gennyt wisg briodas?’ Yntau a aeth yn fud.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Gyfaill,’ meddai wrtho, ‘sut wnest ti lwyddo i ddod i mewn yma heb fod yn gwisgo dillad ar gyfer priodas?’ Allai'r dyn ddim ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai wrtho, 'Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?' A thrawyd y dyn yn fud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost i fewn yma heb fod genyt wisg priodas? Ac yntau a aeth yn fud.