Matthew 22:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot y Brenhin wrth y gweision, Rwymwch y draet a’ ei ddwylo: cymerwch ef ymaith, a’ thavlwch i’r tywyllwch eithav: ynaw y bydd wylofain, ac yscyrnygy dannedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y brenhin a ddywedodd wrth y gweinidogion, Wedi rhwymo ei draed ef a’ i ddwylaw, teflwch ef allan i’r tywyllwch mwyaf allanol: yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywedodd y brenin wrth y gweision, ‘Rhwymwch ei draed a’i ddwylo, a bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan.’ Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymerwch ef ymaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna dyma'r brenin yn dweud wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a'i draed, a'i daflu allan i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, 'Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y brenin a ddywedodd wrth ei weision, Rhwymwch ei draed a'i ddwylaw, a bwriwch ef allan i'r tywyllwch eithaf. Yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.