Matthew 22:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy a dd anvonesont attaw ei ddiscipulon y gyd a’r Herodiait, can ddywedyt, Athro, gwyddam dy vot yn ’air wir, ac yn dyscy ffordd Dduw yn‐gwirionedd, ac nyd oes arnat oval nep: can nad wyt yn edrych ar wynep dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a danfonasant Atto eu disgyblion ynghyda’r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, gwyddom mai gwir wyt, ac mai crefydd Dduw a ddysgi mewn gwirionedd, ac na waeth Genyt beth fo undyn; canys nid wyt yn edrych ar wyneb dynion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac anfonant ato eu disgyblion gyda’r Herodianiaid i ddywedyd, “Athro, gwyddom dy fod yn ddidwyll, ac yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd, ac na waeth gennyt am neb; canys nid edrychi ar wyneb dynion;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n anfon rhai o'u disgyblion ato gyda rhai o gefnogwyr Herod. “Athro,” medden nhw, “dŷn ni'n gwybod dy fod ti'n onest ac yn dysgu mai ffordd Duw ydy'r gwirionedd. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, "Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol 'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn danfon ato eu Dysgyblion yn nghyd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn eirwir, a'th fod yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad ydwyt yn prisio am neb, oblegyd nid ydwyt yn edrych ar wyneb dynion.