Matthew 22:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywet y‐ni gan hynny, beth a dyby di? Ai iawn rhoddy teyrnget i Caisar, ai ny d yw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywaid, gan hyny, wrthym pa beth yw Dy farn Di: Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nad yw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
dywed gan hynny wrthym beth a debygi di? A ddylid rhoi treth i Gesar ai peidio?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywed i ni gan hynny, Beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon rhoddi teyrnged i Gesar, ai nid yw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, beth ydy dy farn di? Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dywed i ni, gan hyny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?