Matthew 22:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu yn gwybot y drigioni wy, a ddyvot, Paam im temptwch vi chwychwi hypocriteit?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan wybod o’r Iesu eu drygioni, dywedodd, Paham y’m temtiwch, O ragrithwyr?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond canfu’r Iesu eu cast hwynt, a dywedodd, “Pam y temtiwch fi, ragrithwyr?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Paham yr ydych yn fy nhemtio i, chwi ragrithwyr?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iesu'n gwybod mai drwg oedden nhw'n ei fwriadu, ac meddai wrthyn nhw, “Dych chi mor ddauwynebog! Pam dych chi'n ceisio nal i?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, "Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Iesu yn gwybod eu drygioni hwy, a ddywed, Paham yr ydych yn fy nhemtio I, O ragrithwyr?