Matthew 22:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan ddywedyt, Athro, eðyvot Moysen, a’s bydd marw vn, eb yddo blant, priodet ei vrawd y wraic ef, a chyfodet had y’w vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, Mosheh a ddywedodd, Os bydd i neb farw heb iddo blant, gwnaed ei frawd ran cyfathrachwr i’w wraig ef, a chyfoded had i’w frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a choded had i’w frawd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan ddywedyd, Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded had i'w frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynasant iddo, "Athro, dywedodd Moses, 'Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Athraw, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, ei frawd a brioda ei wraig ef, ac a gyfoda hâd i'w frawd