Matthew 22:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd gyd nyni saith broder, a’r cyntaf a briodawdd wreic, ac a vu varw: ac ef eb hiliogeth iddaw, a adawodd ei wreic y’w vrawt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr; a’r cyntaf wedi priodi a fu farw, ac, heb fod ganddo had, adawodd ei wraig i’w frawd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd yn ein plith ni saith o frodyr; a’r cyntaf a briododd, ac a fu farw, a chan nad oedd iddo had gadawodd ei wraig i’w frawd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr: a'r cyntaf a briododd, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth, a adawodd ei wraig i'w frawd.