Matthew 22:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyn yn y cyfodedigaeth, gwraic i bwy o’r saith vydd hi: can ys pop vn y cawsei hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn yr adgyfodiad, gan hyny, i bwy o’r saith y bydd hi yn wraig, canys yr oll a’i cawsant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn yr atgyfodiad, ynteu, i ba un o’r saith y bydd hi’n wraig? Canys pob un ohonynt a’i cafodd hi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a'i cawsant hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o'r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig prun o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr Adgyfodiad, gan hyny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys yr oll a'i cawsant hi.