Matthew 22:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trachefyn y d anvones ef weision er‐eill, gan dywedyt, Dywedwch wrth yr ei a ’ohaddwyt, Wele, paratoais vy‐giniaw: vey ychen am pascedigion a ladwyt, a’ phop peth ys y parat: dewch i’r priodas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trachefn y danfonodd efe weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, fy nghiniaw a barottoais; fy ychen a’m pasgedigion sydd wedi eu lladd, a phob peth yn barod: deuwch i’r briodaswledd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Drachefn anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy nghinio, yr ychen a’r pasgedigion wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dowch i’r neithior”.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, Wele, paratoais fy nghinio: fy ychen a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod: deuwch i'r briodas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Anfonodd weision eraill i ddweud wrthyn nhw: ‘Mae'r wledd yn barod. Dw i wedi lladd teirw a bustych, felly dewch i'r wledd!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, 'Dywedwch wrth y gwahoddedigion, "Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior."'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Trachefn efe a anfonodd weision ereill, gan ddywedyd, Dywedwch i'r gwahoddedigion, Wele, yr wyf wedi parotoi fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion ydynt wedi eu lladd, ac y mae pob peth yn barod: deuwch i'r briodaswledd.