Matthew 22:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s galwadd Dauid ef yn Arglwydd pywedd y mae ef yn Vap iddaw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, Dafydd a’i geilw Ef yn Arglwydd, pa fodd mai Mab iddo yw? Ac ni allai neb atteb Iddo air; ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnw allan ofyn Iddo mwyach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os Dafydd, ynteu, ai geilw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae’n fab iddo?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os yw Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?