Matthew 22:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glypu yr Brenhin, y llidiawdd, ac a dd anvones allan ei lueddwyr, ac a ddinistriawdd y lladdwyr hynny, ac a loscawdd eu dinas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r brenhin a lidiodd; ac wedi danfon ei luoedd, dinystriodd y lleiddiaid hyny, ac eu dinas a losgodd efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A ffromodd y brenin, ac anfonodd ei luoedd, a dinistrio’r lleiddiaid hynny, a llosgi eu dinas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r brenin, efe a lidiodd; ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y brenin yn wyllt gynddeiriog. Anfonodd ei fyddin i ladd y llofruddion a llosgi eu tref.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y brenin oedd yn llidiog, ac a ddanfonodd ei fyddinoedd, ac a ddyfethodd y llofruddion hyny, ac a losgodd eu dinas hwynt.