Matthew 23:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nach galwer yn ðyscodron: can ys vn yw eich dysc y awdr chwi, ys ef Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac na’ch galwer yn feistriaid, canys un yw eich Meistr, sef Crist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac na’ch galwer yn hyfforddwyr, oherwydd un hyfforddwr sydd i chwi, y Crist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na'ch galwer yn athrawon: canys un yw eich Athro chwi, sef Crist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A pheidiwch â gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A pheidiwch chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na'ch galwer chwi yn Arweinwyr, canys eich Arweinydd chwi Un ydyw, y Crist.