Matthew 23:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pwy pynac a ymddyrcha y vn, a iselir: a’ phwy pynac a ymisela ehun, a dderchefir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r hwn a ddyrchafo ei hun, a ostyngir; ac yr hwn a ostyngo ei hun, a ddyrchefir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phwy bynnag a’i dyrchafo’i hun a ostyngir, a phwy bynnag a’i gostyngo’i hun a ddyrchefir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a ddyrchefir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael ei godi i'r top.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Darostyngir pwy bynnag fydd yn ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pwy bynnag fydd yn ei ddarostwng ei hun.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phwy bynag a ddyrchafo ei hun a ostyngir; a phwy bynag a ostyngo ei hun a ddyrchefir.