Matthew 23:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwae chwy chvvi ’r Gwyr‐llē a’r Pharisaieit, hypocriteit, can ychwi gau teyrnas nef oedd geyrbron dynion: canys ychunain nyd ewch ymewn, ac ny’s gedwch ir ei a ddauent y mewn, ddyvot y mywn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys cau teyrnas nefoedd yr ydych o flaen dynion; canys chwychwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai y sydd yn myned i mewn, ni adewch iddynt fyned i mewn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn cloi teyrnas nefoedd yn erbyn dynion; canys chwi nid ewch i mewn, a’r rhai sydd yn ceisio myned i mewn, ni edwch iddynt fyned.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwae i chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr: canys yr ydych yn cau Teyrnas Nefoedd o flaen dynion: canys chwi eich hunain nid ewch i fewn, a'r rhai sydd yn myned i fewn nis gadewch i fyned i fewn.