Matthew 23:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chwy chvvi ’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit hypocriteit: can ys‐amgylchiwch vor a’ thir i wneythy ’r vn o’ch proffes eich vnain: a’ gwedy y gwneler, ys gwnewch ef yn ddaublygach yn vap i yffern na chwi ych vnain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys myned o amgylch y môr a’r tir yr ydych i wneuthur un proselyt; ac wedi ei wneuthur, ei wneud ef yr ydych yn fab Gehenna ddwy waith fwy na chwi eich hunain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn amgylchu’r môr a’r tir i wneuthur un proselyt, a phan fyddo wedi ei wneuthur gwnewch ef yn gymaint ddwywaith o fab Gehenna â chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur un proselyt; ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Ond yna dych chi'n ei droi'n blentyn uffern — ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cwmpasu mr a thir i wneud un proselyt, ac wedi ei gael fe'i gwnewch yn ddwywaith cymaint o blentyn uffern ag yr ydych chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir i wneyd un proselyt; a phan y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab Gehenna yn ddau cymmaint a chwi eich hunain.