Matthew 23:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chwy chvvi dywysogion daillion, yr ei a ddywedwch, Pwy pynac a dwng i’r Tem p l, ni d yw ddim: an’ d pwy pynac a dwng i aur y Tem p l, y mae ef yn gwneythy d ar gam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, dywysogion deillion, y rhai sy’n dywedyd, Pwy bynnag a dyngo myn y deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn aur y deml, dyledwr yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, arweinwyr dall, sy’n dywedyd, ‘Y neb a dyngo i’r deml, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i aur y deml, y mae arno ddyled.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, dywysogion deillion! y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng i'r deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe mewn dyled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, arweinwyr dall sy'n dweud, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r deml, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r aur sydd yn y deml, y mae rhwymedigaeth arno.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, arweinyddion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynag a dwng i'r Cyssegr, nid yw ddim; ond pwy bynag a dwng i aur y Cyssegr, y mae efe yn rhwymedig.