Matthew 23:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a dwng i’r allor, ni d yw ddim: an’d pynac a dyngo i’r offrwm ys ydd arnei y mae ef yngham.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac pwy bynnag a dyngo myn yr allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn y rhodd y sydd arni, dyledwr yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eto, ‘Y neb a dyngo i’r allor, ni olyga ddim; ond y neb a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae arno ddyled.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi ei rwymo gan ei lw.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thrachefn fe ddywedwch, 'Os bydd rhywun yn tyngu llw i'r allor, nid yw hynny'n golygu dim; ond os bydd yn tyngu i'r offrwm sydd ar yr allor, y mae rhwymedigaeth arno.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Etto, pwy bynag a dwng i'r Allor, nid yw ddim, ond pwy bynag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwymedig.