Matthew 23:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Chvvychvvi ynfydion a’ deillion, pwy vn vwyaf, ai ’r offrwm, ai’r allor a sancteiddia ’r offrwm?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Deillion, canys pa un fwyaf, y rhodd neu’r allor y sy’n sancteiddio’r rhodd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ddeillion! Canys pa un sydd fwyaf, y rhodd ai’r, allor sy’n santeiddio’r rhodd?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ffyliaid, a deillion: canys pa un fwyaf, y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica — yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ddeillion, prun sydd fwyaf, yr offrwm ynteu'r allor, sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Chwi ddeillion! canys pa un sydd fwyaf, y rhodd, neu yr Allor sydd yn sancteiddio y rhodd?