Matthew 23:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phwy pynac a dwng i’r Templ, a dwng iddi, ac i hwn a dric ynthei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yr hwn a dyngodd myn y deml, tyngu y mae myn hi a myn yr Hwn sy’n preswylio ynddi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac a dyngo i’r deml, tyngu y mae iddi hi ac i’r hwn sy’n preswylio ynddi;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy bynnag a dwng i'r deml, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae'r sawl sy'n tyngu llw i'r deml yn tyngu iddi hi ac i'r hwn sy'n preswylio ynddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn a dwng i'r Cyssegr a dwng iddo, ac i'r Hwn sydd yn preswylio ynddo.