Matthew 23:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chwy chvvi ’wyr‐llen a’r Pharisaieit hypocritieit: can ys‐glanewch y tu allan i’r cwpa n, a’r ddescl: ac o’r tu mewn y maent yn llawn trais a’ gormoddedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys glanhau yr ydych y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn llawn ydynt o reibusrwydd ac anghymmedroldeb.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r plât, ond o’r tu mewn llawn ydynt o ladrad a thrachwant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd ac anghymedroldeb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw trwy drais a hunanoldeb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn glanhau'r tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond y tu mewn y maent yn llawn trachwant a hunan-foddhad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn glanhau y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl, ond o'r tu fewn y maent yn llawn trais ac anghymmedroldeb.