Matthew 23:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chwy chvvi ’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit, hypocriteit: can ys ich cyffelypir i veddae gwedy ei gwynhay, yr ei a welir yn brydferth o dd yallan, ac o ymywn y maent yr llawn escyrn y meirw, a’ phop aflendit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwynnu, y rhai oddiallan yn wir a edrychant yn dêg; ond oddimewn, llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys ymdebygwch i feddau wedi eu gwyngalchu; oddi allan ymddangosant yn deg, ond oddi mewn llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw, a phob aflendid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi fel beddau wedi eu gwyngalchu. Mae'r cwbl yn edrych yn ddel iawn y tu allan, ond y tu mewn maen nhw'n llawn o esgyrn pobl wedi marw a phethau afiach eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn debyg i feddau wedi eu gwyngalchu, sydd o'r tu allan yn ymddangos yn hardd, ond y tu mewn y maent yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwyngalchu, y rhai oddiallan ydynt yn ymddangos yn deg, ond oddifewn ydynt lawn o esgyrn y meirw a phob aflendid.