Matthew 23:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly ydd y chwi the: can ys o dd iallan yr ymddangoswch i ðynion yn gyfion, ac o ymewn ydd ych yn llawn hypocrisi ac enwiredd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly chwithau hefyd oddiallan, yn wir, a edrychwch i ddynion yn gyfiawnion; ond oddimewn, gorlawn ydych o ragrith ac anghyfraith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly chwithau hefyd, oddi allan ymddangoswch i ddynion yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi'r un fath! Ar y tu allan dych chi'n edrych yn bobl dda a duwiol, ond y tu mewn dych chi'n llawn rhagrith a drygioni!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly hefyd yn allanol yr ydych chwithau yn ymddangos i bobl yn gyfiawn, ond oddi mewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly chwithau hefyd, oddiallan yn wir yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond oddifewn yn llawn rhagrith ac annghyfiawnder.