Matthew 23:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae chwi’r Gwyr‐llen a’r Pharisaieit hypocriteit: can ys ych bot yn adailiat beddae’r Prophwyti, ac yn addurnaw monwenti y cyfiownion,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, ac addurnwch feddgorau’r cyfiawnion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi ac yn addurno beddrodau’r rhai cyfiawn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi, ac yn addurno beddau'r rhai cyfiawn;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn adeiladu beddau'r proffwydi ac yn addurno beddfeini'r rhai cyfiawn,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, ac yn addurno cofadeiliau y rhai cyfiawn,