Matthew 23:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr oll bethae gan hyny ar a ddywedant ywch am ei cadw, cedwch a’ gwnewch: an’d ar ol ei gweithredoedd na wnewch: can ys dywedyt a wnant, eb wneythy’r.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr oll, gan hyny, cymmaint ag a ddywedant wrthych, gwnewch a chadwch; ond yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac ni wnant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pob peth, gan hynny, a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch ef, ond yn ôl eu gweithredoedd na wnewch; canys dywedant, ac ni wnânt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw — dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly gwnewch a chadwch bopeth a ddywedant wrthych, ond peidiwch dilyn eu hymddygiad, oherwydd siarad y maent, heb weithredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oll gan hyny, pa bethau bynag a ddywedant wrthych, gwnewch a chedwch; eithr yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac nis gwnant.